Faint o broblem ydy alcohol i ferched yn y gymdeithas?

  • LRCadmin

Faint o broblem ydy alcohol i ferched yn y gymdeithas?

Yn dilyn erthygl Agor fy nghalon gan yr actores Ffion Dafis yn ddiweddar, mae Cymru Fyw yn edrych yn fanylach ar y rôl mae alcohol yn chwarae mewn cymdeithas yng Nghymru – yn enwedig ymhlith merched.


Carol Hardy – “Sneb yn planio bod yn alcoholig.”

Mae Carol Hardy, sydd wedi bod yn ddibynnol ar alcohol yn y gorffennol, erbyn hyn yn Rheolwr Gwasanaethau yn Y Stafell Fyw, canolfan sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n gaeth i alcohol, cyffuriau, rhyw a gamblo yng Nghaerdydd.

Yn ôl Carol, mae darlun y cyfryngau o alcohol a’r nwyddau â sloganau sy’n cael eu gwerthu sy’n targedu merched, gan normaleiddio alcohol yn y gymdeithas, yn “frawychus iawn”. Mae merched erbyn diwedd eu 30au neu 40au yn gallu ffeindio eu hunain o dan lot o straen, yn cadw swydd a gofalu am y teulu, a weithie mae’n ymddangos taw dyna’r rhesymau pam bod merched yn mynd yn ddibynnol ar alcohol ac yn chwilio am help, meddai.

Tua 9 o’r gloch y nos, pan oedd popeth yn daclus ar ôl diwrnod gyda’r plant, o’n i’n meddwl dwi’n haeddu gwydraid o sherry neu wydraid o win.

“Yfed gwin ydy’r brif broblem i ferched, am ei fod wedi cael ei normaleiddio. Os ydych chi’n gwylio opera sebon ar y teledu, os ydy dwy ferch yn dod at ei gilydd, dim cynnig paned o de neu goffi maen nhw, ond fe welwch chi botel o win bob amser.

“Fe welais i rywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar oedd yn normaleiddio yfed prosecco, a wnes i feddwl ‘o, rhywbeth arall eto’. Mae’r sloganau yma ‘Prosecco o’clock‘, ‘Gwin o’r gloch’ ac ati sy’n targedu merched, os wyt ti’n briod neu’n sengl, maen nhw’n rhoi’r argraff dy fod ti’n secsi ac yn trendi, mai dyna wyt ti fod i ‘neud.

“Sneb yn planio bod yn alcoholig. Mae rhai pobl yn gallu yfed a dydy o ddim yn cael effaith arnyn nhw. Ond pan mae o o dy gwmpas di ym mhob man, y normaleiddio di-ben-draw a’r syniad mai’r done thing ydy yfed prosecco, mae’n gallu bod yn beryglus, os ydych chi’n yfed fel rhan o’ch routine dyddiol, dyna ddechrau ar y daith.

“Hefyd reward drinking, dyna sut ddatblygodd fy alcoholiaeth i. Tua 9 o’r gloch y nos, pan oedd popeth yn dawel a thaclus ar ôl diwrnod gyda’r plant, o’n i’n meddwl dwi’n haeddu gwydraid o sherry neu wydraid o win. Mae merched yn gallu meddwl bod yn rhaid cael alcohol ar ddiwedd diwrnod caled.

“Os ydych chi’n mynd i unrhyw ddigwyddiad erbyn hyn, mae pobl yn disgwyl bod na alcohol yno. Dydy pobl ddim yn mynd i brynu te neu goffi – dyna sy’ wedi digwydd i’n cymdeithas ni a mae hynny’n frawychus iawn a dweud y gwir.”

“R’on i’n yfwr 24 awr y dydd, ond yn dal i gario mlaen gyda fy mywyd fel arfer.”

Mae un ddynes o Benarth, sy’n dymuno aros yn ddi-enw, yn dweud mai yfed gwin yn y tŷ oedd cychwyn ei thaith hi i alcoholiaeth:

Cyn gynted ag y byddai fy ngŵr yn dod adre o’r gwaith fydden ni’n agor potel o win. Efallai y bydden ni’n yfed potel yr un, ac yna’n agor un arall.

Mewn pob math o ddigwyddiad cymdeithasol, picnic, barbeciw, oedd ‘na wastad alcohol ‘na ac mi r’on i’n cysylltu yfed gyda chael amser da. Roedd yn dderbyniol i ni i yfed gyda ffrindiau.

Yn sydyn iawn r’on i’n yfed er mwyn cael fy hun trwy’r diwrnod. R’on i’n yfwr 24 awr y dydd, ond yn dal i gario mlaen gyda fy mywyd fel arfer.

Fe es i trwy gyfnod lle o’n i’n edrych ar y cloc tan i fy ngŵr gyrraedd adre o’r gwaith, yn disgwyl gallu agor y botel. Ond wedyn, dechreuais yfed adre’ ar fy mhen fy hunan amser cinio. ‘Wnâi gael un gwydraid cyn casglu’r plant o’r ysgol.’ Ond roedd un yn mynd yn ddau neu dri. Dwi’n gwybod ei fod yn swnio’n frawychus, ond mi wnes i fynd i gasglu’r plant yn y car pan na ddylwn i fod wedi bod yn gyrru.

R’on ni’n yfed cyn i ni gael plant, ac wedyn r’on ni’n yfed o gwmpas y plant, maen nhw’n sicr wedi tyfu lan lle oedd alcohol o gwmpas. Os oedden i’n mynd mas am bryd o fwyd, bydden i’n yfed potel neu fwy o win cyn mynd. Yna fyswn i ond yn cael gwydraid gyda’r bwyd. O’n i’n gwisgo masg, ac yn dangos mai ond un gwydraid o win r’on i ei angen ond doedd hynny ddim yn wir.


‘Yfed allan o bob rheolaeth’

Mae menywod, os ydyn nhw’n colli strwythur i’w diwrnod, efallai pan mae eu plant yn gadael cartref, yna mae yfed yn gallu cymryd drosodd yn hawdd. Fe aethon ni i fyw dramor am gyfnod, r’on i’n teimlo’n ynysig ac yn unig, a dyna pryd sylweddolais bod fy alcohol yn broblem. Roeddwn i’n cysylltu yfed gyda theimlo’n dda, roedd yn ddihangfa.

Yn sydyn iawn r’on i’n yfed er mwyn cael fy hun trwy’r diwrnod. R’on i’n yfwr 24 awr y dydd, ond yn dal i gario mlaen gyda fy mywyd fel arfer.

Roedd diwedd fy 40au yn gyfnod anodd ac mi roedd fy yfed i allan o bob rheolaeth. Fe es i rehab am fis o detox, ond pan ddes i allan doedd dim byd yn fy mywyd i wedi newid. Roedd pawb yn meddwl fy mod i’n OK achos fy mod i wedi bod yn rehab ond dechreuais yfed eto.

Roedd fy iau wedi gordyfu, r’on i’n chwydu gwaed, a ches i fy rhuthro i’r ysbyty a dyna’r peth gorau a ddigwyddodd i fi. R’on i wedi cyrraedd y gwaelod a dywedodd y meddygon wrthai, os gei di ddiod arall, fyddi di’n marw.

Ar ôl dod o’r ysbyty fe es i i rehab yn Llantrisant lle o’n i’n byw i mewn am 18 wythnos a dyna oedd angen arna i. Yna cefais gymorth gan Yr Ystafell Fyw, dwi yno bron bob dydd.

Dwi ‘di bod yn sobor bron i dair blynedd. Petai unrhyw un wedi dweud wrtha’ i dair blynedd yn ôl pan o’n i’n yfed 24 awr y dydd, y bydden i lle ydw i heddi, fydden i ddim wedi eu credu nhw.

Dydy pobl ddim yn sylweddoli y grip sydd gan alcohol arno chi, ond beth ni’n dweud yw, d’yn ni ddim yn cau’r drws ar y gorffennol, ond r’yn ni’n edrych i’r dyfodol, a dwi’n teimlo’n bositif.

45 views0 comments