Gweddi ar gyfer y Pasg oddi wrth Cynnal

  • LRCadmin

Gweddi ar gyfer y Pasg oddi wrth Cynnal

Updated: Mar 20, 2019


Mae CYNNAL yn delio â phob math o broblemau ac yn cymryd ymagwedd gyfannol sy’n mynd i’r afael â’r rhyngweithio rhwng y meddwl, y corff a’r enaid. Mae’r gwasanaeth yn cydnabod dimensiwn ysbrydol bywyd ac os yw’n briodol, yn cynnig cyfeirio pobl at gyfarwyddyd ysbrydol pellach. Yn ei rôl fel ymgynghorydd cwnsela arbenigol i CYNNAL, mae Wynford Ellis Owen wedi gallu ehangu’r gwasanaeth i Ogledd, Dwyrain a Gorllewin Cymru a sicrhau bod CYNNAL nawr o fewn cyrraedd pobl ar lefel genedlaethol. Yn fuan, mae’n gobeithio sefydlu cangen yn Aberystwyth.

Y Parchedig Margaret Le Grice, offeiriad wedi ymddeol o’r Eglwys yng Nghymru, sydd wedi cyfansoddi’r weddi’r flwyddyn hon. Diolch iddi am y gymwynas hon ac i’r Parchedig Denzil I John am olygu a chywiro’r fersiwn Gymraeg.

Dymunwn i chi Basg hapus yn llawn gorfoledd a rhyfeddod.

Lawrlythwch y weddi

6 views0 comments