-
LRCadmin
-
Wythfed Sul Adferiad Cymru
Bydd dydd Sul 27ain o Hydref, 2019, yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru.
Mae’r gwasanaeth eleni yn seiliedig ar hanes Jona, un o storïau mawr y Beibl. Byddwn yn gweld pa mor berthnasol yw’r stori i ni heddiw a bod yna Jona y tu mewn i ni i gyd.
Mae croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gellir ei lawrlwytho o’n gwefannau: www.livingroom-cardiff.com ; neu www.cynnal.wales
Dyma wythfed Sul Adferiad Cymru. Ar y Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru i uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, yn ddibynnol; yn gofyn i Dduw ein helpu ni i’w helpu nhw.
Diolch rhagblaen am bob cydweithrediad a chefnogaeth.
Wynford Ellis Owen
Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol
Lawrlwythwch
Gwasanaeth